148 episodes
- *RHYBUDD CYNNWYS* Mae'r bennod hon yn cynnwys trafodaeth am achos llys Russell Brand, trais ac ymosodiadau rhyw.
Mae Mari bellach wedi dychwelyd o gynnal ei chynhadledd i'r wâsg ar fod yn prepper, mae'r Unol Daleithiau yn las ac mae Owain Wyn Evans wedi cychwyn ar gefn ei feic o amgylch yr Alban, Gogledd Iwerddon, Lloegr a Chymru. Ar ben hynny, mae Kim Kardashian wedi gorfod ad-dalu ei chwsmeriaid, mae Cordia wedi ymweld â Chlwb Ifor Bach ac mae'r band Ciwb wedi rocio neuadd bentref Llanuwchllyn. Dewch i mewn i'r siop i glywed yr hanes! - Mae hi bellach yn Dachwedd ac mae Mariah wedi ei dadmer o'r bloc iâ. Rhy gynnar i roi'r addurniadau i fyny? Beth fydd ar eich bwydlen Dolig chi? Dyma rai o'r cwestiynnau yn y blwch yr wythnos hon. Heb sôn am drafodaeth am ffeinal y Traitors, enwebiadau BIFA ac Heidi Klum fel llaw... Mewn â chi!
- Dydi'r stormydd na'r bwganod methu cadw Mari a Meilir draw o'r siop. Yr wythnos hon, mae yna drafodaeth am ymadawiad Anita o'r gyfres Pobol y Cwm, gêm beldroed rhwng Llanuwchllyn a'r Bala, a mynach weddol enwog ar Ynys Byr... Jesd cliciwch play a dewch mewn o'r glaw. Chi'n gadael drafft mewn!
- Wedi wythnos o seibiant ar ôl y sioeau byw yn y Bala ac Aberystwyth, mae Mari a Meilir yn ôl gyda sioe llawn dop i chi o holl ddigwyddiadau a straeon y pythefnos diwethaf. O saga Kelly Clarkson a'r tegan, sêr Cymru mewn cynhyrchiadau comics mwya'r byd a'r protestiadau yn Ffrainc. Mewn â chi i'r siop, mae hi'n oer tu allan!
- Mae hi'n wythnos y sioeau byw yn y Bala ac Aberystwyth ac mae'r siop yn llawn bwrlwm yr wythnos hon wrth i Mari a Meilir baratoi ar gyfer y penwythnos. Ond hefyd rhaid trafod gwobrau'r BAFTAs Cymru, recordiad Dracula newydd Jonathan Bailey a chreision blâs cyw iâr...! Dewch i mewn, mae'r siop ar agor.
More Arts podcasts
Trending Arts podcasts
About Siarad Siop efo Mari a Meilir
Podlediad sgyrsiol arobryn || Award-winning, light entertainment podcast. British Podcast Award winner 2023
Podcast websiteListen to Siarad Siop efo Mari a Meilir, ill-advised by Bill Nighy and many other podcasts from around the world with the radio.net app

Get the free radio.net app
- Stations and podcasts to bookmark
- Stream via Wi-Fi or Bluetooth
- Supports Carplay & Android Auto
- Many other app features









































