Gyda'r arolygon barn yn awgrymu y bydd Reform yn mwynhau llwyddiant yn etholiad y Senedd y flwyddyn nesa' mae Elliw Gwawr yn ymuno â Vaughan a Richard i drafod sut all ei apêl newid gwleidyddiaeth Cymru. Mae'r tri hefyd yn trafod pam fod 10 Aelod o'r grŵp Llafur yn y Bae ddim am sefyll yn etholiad 2026; faint o broblem fydd hynny i'r blaid?
--------
26:55
Ail ddaergryn ar droed?
Yr Arglwydd Dafydd Wigley sy'n ymuno gyda Vaughan a Richard yr wythnos hon i drafod gobeithion Plaid Cymru yn Etholiad Senedd 2026. A fydd y blaid yn medru ail-adrodd y llwyddiant a welwyd yn etholiad cyntaf y Cynulliad yn 1999 y flwyddyn nesaf?Mae'r Arglwydd Wigley hefyd yn esbonio pam mai arweinydd y Blaid, Rhun ap Iorwerth fydd Prif Weinidog Cymru ar ôl yr etholiad nesa'.
--------
23:11
Llafur Caled
Mae Vaughan a Richard nôl gyda rhifyn cyntaf o'r flwyddyn gan droi eu sylw at y Blaid Lafur. Mae gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, Elliw Gwawr yn ymuno â'r ddau i drafod rhybudd un o gyn-weinidogion Llywodraeth Cymru, Lee Waters bod ei blaid mewn perygl o dderbyn "cic" yn etholiad nesaf y Senedd yn 2026.Mae'r cyn Aelod Seneddol, Llafur Jon Owen Jones hefyd ar y pod i drafod y berthynas rhwng Llafur San Steffan a Llafur Cymru. Oes angen i Eluned Morgan dorri cwys ei hun ac ymbellhau oddi wrth Keir Starmer?
--------
26:14
Golwg ar y Flwyddyn Wleidyddol
Yn ymuno â Vaughan a Richard ym mhennod ola'r flwyddyn mae'r cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones, aelod Ceidwadol dros Dde Orllewin yn Senedd Cymru, Tom Giffard a Nerys Evans o gwmni materion cyhoeddus Deryn sydd hefyd yn gyn aelod Cynulliad Plaid Cymru.Digwyddiadau y flwyddyn a fu ym Mae Caerdydd fydd dan sylw gan gynnwys ymddiswyddiad Vaughan Gething, etholiad cyffredinol 2024 ac mae'r pump hefyd yn ceisio gan ddarogan beth fydd ar yr agenda gwleidyddol yn y misoedd i ddod.
--------
1:00:49
Ta Ta RT
Ar ôl i Andrew RT Davies ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd mae Vaughan a Richard yn dadansoddi'r heriau i'r blaid ac yn gofyn pwy sy'n debygol o'i olynu.
Mae Rhys Owen, gohebydd gwleidyddol Golwg 360 yn y Senedd yn ymuno i drafod sut all Llywodraeth Cymru pasio ei gyllideb wythnos nesa'.
Ac ar ôl i arolwg barn newydd osod Plaid Cymru ar y blaen am y tro cyntaf ers 2010, Llafur a Reform yn gydradd ail a'r Ceidwadwyr yn bedwerydd. Beth all hyn olygu i'r pleidiau?