15 episodes
- Yn cadw cwmni i Francesca Sciarrillo mae’r gantores a chyfansoddwr Casi Wyn.
Yn wreiddiol o ddinas Bangor, Casi oedd Bardd Plant Cymru 2021-2023. Cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Cariad Yw yn 2024. Mae hi wedi perfformio ei cherddoriaeth ar lwyfannau SXSW, BBC Proms in the Park, yn yn ogystal â thaith genedlaethol gyda Sinfonia Cymru. Rhyddhawyd ei halbym newydd Plentyn yr Haul ddiwedd Mawrth.
Casi hefyd yw Cyfarwyddwr Creadigol cylchgrawn Codi Pais, cylchgrawn annibynnol i bawb gan ferched Cymru.
Yn y bennod mae Casi’n trafod gwerth darllen barddoniaeth, ei hoff siopau llyfrau a vibes faniau llyfrgell!
Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes
Recordio sain: Aled Wyn Hughes
Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Teddy’s Place, Caerdydd.
Dyma’r llyfrau sy’n cael eu trafod yn y bennod hon
Llyfr Mawr y Plant - Jennie Thomas, J.O. Williams
Rala Rwdins - Angharad Tomos
Heddwch o’r Diwedd - Jill Murphy, addas. Roger Boore
Beth Nesaf? - Jill Murphy, addas. Roger Boore
Y Llygod a’r Lleuad - Joyce Dunbar, addas. Myrddin ap Dafydd
The Lion, the Witch and the Wardrobe - C.S. Lewis
A Series of Unfortunate Events - Lemony Snicket
Harri Potter a Maen yr Athronydd - J. K. Rowling, addas. Emily Huws
Caer y Rhew - Robert Swindells, addas Gruff Roberts
Mrs Mochyn a'r Sos Coch - Mary Rayner
Elfed yr Eliffant - David McKee
'Dyn Ni yn Mynd i Hela Arth - Michael Rosen, addas. Gwynne Williams
Teulu Bach Nant Oer - Moelona
Y Tylwyth Teg
mae - Mererid Hopwood
Mymryn Rhyddid - Gruffudd Owen
O Ffrwyth y Gangen Hon - Gol. Nia Morais
Trochi – Carwyn Eckley
I Know Why The Caged Bird Sings - Maya Angelou
The Doors of Perception - Aldous Huxley
Codi Pais
Folding Rock
Hanes Byw
Atgofion drwy Ganeuon: Gweld Sêr - Siân James
Y Tywysog Bach - Antoine De Saint-Exupéry
Cariad Yw - Casi Wyn
Cerdded Lerpwl y Cymry - Gari Wyn
Bitter Honey - Caryl Lewis
Service 95
Send Books
Songs of Innocence and of Experience - William Blake
Mynd - Marged Tudur
Nature and Selected Essays - Ralph Waldo Emerson
Y llyfrau ar gael o'ch siop lyfrau leol. - Yr awdur a cholofnydd Malachy Edwards yw gwestai Francesca Sciarrillo yn y bennod ddiweddaraf o Sut i Ddarllen.
Yn enedigol o Lundain ac wedi’i fagu yn Ffynnon Taf, mae Malachy Edwards bellach yn byw ar Ynys Môn.
Cyhoeddwyd cofiant ffeithiol-greadigol cyntaf yr awdur, Y Delyn Aur, gan Wasg y Bwthyn yn 2023, a chyrhaeddodd y llyfr Restr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024. Yn y gyfrol, mae Malachy yn archwilio ei hunaniaeth hil-gymysg, aml-ddiwylliannol a chrefyddol wrth olrhain hanes ei deulu yn Iwerddon a Barbados. Cyhoeddwyd y dilyniant, Paradwys Goll, ym mis Hydref 2025. Yn ogystal ag ysgrifennu llyfrau, mae’r awdur hefyd yn golofnydd i’r cylchgrawn Golwg.
Yn y bennod mae'n trafod cylchgronau sgelfyrddio, darllen y clasuron a'i ymchwil diweddar i fywyd John Ystumllyn.
Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes
Recordio sain: Aled Wyn Hughes
Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Stiwdio Sain, Llandwrog.
Rhestr Ddarllen
Thrasher Magazine
Kerrang
Rolling Stone
Cyfres Artemis Fowl - Eoin Colfer
1984 - George Orwell
The Handmaid's Tale - Margaret Atwood
Doctor Faustus - Christopher Marlowe
The Autobiography of Benvenuto Cellini - Benvenuto Cellini, cyfieithiad Anne Macdonell
The Interesting Narrative and Other Writings - Olaudah Equiano
Pam Na Fu Cymru - Methiant Cenedlaetholdeb Cymraeg - Simon Brooks
Decolonizing Language and Other Revolutionary Ideas - Ngugi wa Thiong'o
The Islander - Tomás O'Crohan
Y Fro Dywyll - Jerry Hunter
Sgythia - Gwynn ap Gwilym
Ymbelydredd - Guto Dafydd
Lloerganiadau - Fflur Dafydd
Anfarwol - Peredur Glyn
Te yn y Grug - Kate Roberts
Cysgod y Cryman - Islwyn Ffowc Elis
Gweithiau Daniel Owen
Y llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau leol. - Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae Buddug Watcyn Roberts.
Er yn ifanc mae Buddug iawn wedi bod ar ysgrifennu’n greadigol ac yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Mae wedi gweithio ar nifer o brosiectau creadigol: llwyfannwyd drama ganddi gan Gwmni Ifanc Frân Wen ac mae wedi cyhoeddi ei gwaith yn Codi Pais a rhifynnau Ffosfforws gan gyhoeddiadau’r Stamp.
Yn y bennod mae Buddug yn trafod darllen gwaith Llwyd Owen am y tro cyntaf, grym cyfrolau barddoniaeth, a'r mwynhad o ddarllen yr un llyfr sawl tro.
Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes
Recordio sain: Aled Wyn Hughes
Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Stiwdio Sain, Llandwrog.
Rhestr Ddarllen
Morgan a Magi Ann - Mary Vaughan Jones
Huw Bob Lliw - Marian Jones
Neli’r Pysgodyn Jeli - Marian Jones
Marc y Siarc - Marian Jones
Ffawd, Cywilydd a Celwyddau - Llwyd Owen
mor hapus - Gwenllian Ellis
Lladd Arth - Kayley Roberts
Cwlwm - Ffion Enlli
Holl Lawenydd Gwyllt - Llyr Gwyn Lewis
Gwlad Bardd - Rhys Iorwerth
Iaith y Nefoedd - Llwyd Owen
Oedolyn-ish - Mel Owen
Girl Crush - Florence Given
Women Don’t Owe You Pretty - Florence Given
Women Living Deliciously - Florence Given
Trochi - Carwyn Eckley
Abermandraw – Rhys Iorwerth
Mymryn Rhyddid – Gruffudd Owen
Hel Llus yn y Glaw – Gruffudd Owen
Why Has Nobody Told Me This Before? – Dr Julie Smith
V+Fo – Gwenno Gwilym
Bechygyn Drwg am Byth – Llwyd Owen
Mwy am prosiect Pencerdd Llenyddiaeth Cymru yma.Y llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau leol. - Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae’r comedïwr, y cyflwynydd ar awdur Melanie Owen.
Yn wreiddiol o Aberystwyth, mae Mel bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae wedi bod yn ysgrifennu am bron i ddegawd, gan gynnwys sgriptiau i Channel 4, BBC Cymru Wales a BBC Radio Cymru.
Roedd ei chyfrol gyntaf, Oedolyn (ish!), ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2025.
Yn y bennod mae Mel yn trafod bod yn "Jacqueline Wilson girly", rhoi darllen ar y to-do list a chrio yn Llyfrgell Aberystwyth.
Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes
Recordio sain: Aled Wyn Hughes
Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Teddy's Place, Caerdydd.
Rhestr Ddarllen
Llyfrau Jacqueline Wilson
I Feel Bad About My Neck - Nora Ephron
Mor Hapus - Gwenllian Ellis
Sgen i’m Syniad - Gwenllian Ellis
V + Fo - Gwenno Gwilym
Oedolyn(ish) - Melanie Owen
This is Going to Hurt – Adam Kay
Twas The Nightshift Before Christmas – Adam Kay
O Ffrwyth y Gangen Hon – Gol. Nia Morais
Noughts & Crosses - Malorie Blackman
Think Again – Jacqueline Wilson
Little Fires Everywhere - Celeste Ng
Camu – Iola Ynyr
How to Survive an Affair: A Practical Guide – Henry Widdicombe
Angus, thongs and full-frontal snogging – Louise Rennison
Y llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau leol. - Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae’r awdur a’r cyflwynydd Geraint Iwan.
Dros y blynyddoedd mae wedi dilyn nifer o yrfaoedd a gweithio i lu o gwmnïau gwahanol, gan gynnwys y BBC, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac amryw o gwmnïau teledu.
Cyhoeddir ei gyfrol gyntaf, Storis Geraint Iwan, storis am yr hyn sy’n llechu dan yr wyneb, gan Wasg Carreg Gwalch, fis Mawrth.
Yn y bennod mae Ger yn trafod ei obsesiwn efo straeon, darganfod darllen drwy ffilmiau a pheryglon gwrando ar lyfrau llafar yn Morrisons Caernarfon.
Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes
Recordio sain: Aled Wyn Hughes
Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Stiwdio Sain, Llandwrog
Rhestr Ddarllen
Congrinero - David Meredith
Rownd y Byd yn y Ras Falwnau Orau Erioed - Sue Scullard
Beibl y Plant Mewn Lliw
I Ble Aeth Haul y Bore? - Eurig Wyn
Dan Gadarn Goncrit - Mihangel Morgan
Cysgod y Cryman - Islwyn Ffowc Elis
Yn y Gwaed - Geraint V. Jones
Tân ar y Comin - T. Llew Jones
Jaws - Peter Benchley
Jurassic Park - Michael Crichton
Do Androids Dream of Electric Sheep? - Philip K. Dick
The Gone-Away World - Nick Harkaway
Ready Player One - Ernest Cline
I am Legend - Richard Matheson
Trioleg Extracted – RR Haywood
I, Partridge: We Need To Talk About Alan - Alan Partidge
The Rivers of London - Ben Aaronovitch
Cyfres The Bourne Identity – Roberts Ludlum
Straeon byrion Ruth Rendell
And Then There Were None - Agatha Christie
Cyfres A Game of Thrones - George R. R. Martin
The Martian – Andy Weir
Y llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau leol.
More Arts podcasts
Trending Arts podcasts
About Sut i Ddarllen
Sut i Ddarllen, sgyrsiau gonest am ddarllen gyda Francesca Sciarrillo.
Fe fyddwn ni'n trafod pob math o agweddau ar ddarllen - o’i ddylanwad i’w effaith ar ein bywydau bob dydd.
Yn rhannu atgofion ac argymhellion, rhinweddau a rhwystredigaethau a hynny efo gwesteion difyr.
Podcast websiteListen to Sut i Ddarllen, Dish and many other podcasts from around the world with the radio.net app

Get the free radio.net app
- Stations and podcasts to bookmark
- Stream via Wi-Fi or Bluetooth
- Supports Carplay & Android Auto
- Many other app features
Get the free radio.net app
- Stations and podcasts to bookmark
- Stream via Wi-Fi or Bluetooth
- Supports Carplay & Android Auto
- Many other app features


Sut i Ddarllen
Scan code,
download the app,
start listening.
download the app,
start listening.
Sut i Ddarllen: Podcasts in Family





















