Pennod 30. Ar Orffennaf 30. Ar y diwrnod mae fy mamgu yn troi'n 90. A blwyddyn o bodlediad: Haf 2024 - Haf 2025. Doedd dim cynllun lawnsio, dim pwysau, dim ond ymddiriedaeth y byddai'r podlediad yn darganfod y bobl oedd ei angen. Ac mae wedi. Yn y bennod hon, dwi'n myfyrio dros beth mae'n ei olygu i greu rhywbeth oedd â'r bwriad i fod yma i aros - mewn byd sy'n obsesiynol am amserlenni a phethau cyflym, Dwi'n sôn am pam dwi heb fod yn hysbysebu'r podlediad, a pham fod y podlediad yn mynd yn dawel am nawr. Beth sy'n newid... a beth sy ddim am newid! Diolch o galon i Marc Griffiths o Stiwdiobox am bob cymwynas wrth roi'r bennod hon allan i'r byd bob pythefnos dros y flwyddyn ddiwethaf, ac i Ieuan Wyn am gerddoriaeth ffab pod GBYH. Os wyt ti'n newydd yma - croeso. Cei glywed yn y bennod hon ambell awgrym ar ble i ddechrau yn llyfrgell podlediad GBYH. Ac os wyt ti wedi bod yn gwrando ar y dechrau - diolch. Mae'r bennod hon i chi gyd.
--------
7:56
--------
7:56
Y bennod olaf ond un | 29
Y bennod olaf ond un (am y tro!) - nid hwyl fawr sydd yma - ond dechrau newydd. Cyfle i anrhydeddu beth mae'r gofod hwn wedi bod a chyflwyniad ysgafn i'r hyn sy'n dod. Mae'r rhythm ar fin newid - nid achos bod rhywbeth yn dod i ben, ond achos bod rhywbeth arbennig yn barod i ddechrau. Os ydy HARBWR - Ehangu'n Esmwyth yn teimlo fel dy rythm nesaf di, mae croeso i ti ddysgu mwy yma
--------
9:14
--------
9:14
O na fyddai'n haf o hyd? | 28
Os yw'r haf yn gyfnod sy'n teimlo fel ei fod yn llithro rhwng dy ddwylo wrth i ti gadw'r heddwch, cynnal y cynlluniau, a gosod dy anghenion di i'r naill ochr - dyma'r bennod i dy helpu i wasgu pause. Byddi di'n clywed am y posibilrwydd o gael haf sy'n teimlo'n wahanol. Nid un sy'n uwch, nid un sy'n brysurach ond un sy'n teimlo mwy fel dy haf di. Ac mae gwahoddiad cynnes i ti enwi yr hyn rwyt ti eisiau ei deimlo erbyn mis Medi - cyn iddo basio heibio unwaith eto. Dwyt ti ddim angen rhagor o amser. Rwyt ti angen caniatâd i archwilio beth wyt ti ei eisiau. Ac efallai, y tymor hwn, rwyt ti'n gwneud lle i'r cwestiwn: Pam ddim ti? A pham ddim nawr? I helpu siapio beth sydd nesaf i ti - dyma'r ddolen ar gyfer yr holiadur byr dwi wedi'i greu. Bydd yn cymryd llai na 3 munud i'w lenwi. Gelli di gael mynediad ato drwy glicio yma. Beth am wneud yr haf hwn yr haf ble rwyt ti - o'r diwedd - yn cadw'r addewid i dy hunan mai y tro hwn, bydd pethau'n wahanol.
--------
6:01
--------
6:01
'Ydw i'n gwneud synnwyr'? | 27
Pa mor aml ydych chi'n dal eich hunan yn dweud y geiriau hyn? Sut maen nhw'n gwneud i chi deimlo? Gwrandewch ar y bennod i ddysgu sut gallwn gadw at deimlad y frawddeg hon, heb dynnu oddi ar ein hunan hyder. A gyda llaw - mi rydych chi - wrth gwrs - yn gwneud synnwyr - ddoe, heddiw a fory. Peidiwch â gadael i hunan-amheuaeth ennill y dydd. Gwrandewch i newid y llais mewnol hwn.
--------
12:20
--------
12:20
Ein Doethineb Mewnol | 26
Mewn byd ble mae cymaint yn teimlo eu bod ar ras - sut gallwn ni diwno fewn i'n doethineb mewnol i'n helpu darganfod y llwybr sy'n iawn i ni?Y penodau eraill y cyfeiriir atynt yn y bennod hon ydy Pennod 5: Tymor y Bwa a'r Saeth a Phennod 15: Angen Vs Eisiau. Mwynhewch!*Cofiwch fod unrhyw wybodaeth sy'n cael ei rannu ar y pod ddim yn gyfystyr â chyngor meddygol, felly os ydych chi'n poeni am rywbeth, ewch i weld eich darprwr meddygol proffesiynnol. Diolch!*