Yn y podlediad arbennig hwn i gyd-fynd ag ymgyrch Defnyddia dy Gymraeg, mae Hanna Hopwood yn cael cwmni Non, Rachel ac Emma o’r grŵp Eden ac yn sgwrsio am eu profiadau nhw gyda’r iaith Gymraeg yn eu bywydau personol, ac yn eu gyrfaoedd.
-------- Â
26:37
Rho gynnig arni!
Yn ein podlediad diweddaraf mae Mathew Thomas, Pennaeth Tîm Hybu Comisiynydd y Gymraeg, yn sgwrsio gyda Hanna Hopwood am waith y tîm ac yn benodol am y Cynnig Cymraeg. Yn ymuno â nhw mae Harri Jones o gymdeithas adeiladu’r Principality.
-------- Â
11:41
Trywydd rheoleiddio i'r dyfodol
Yn ein hail podlediad mae Osian Llywelyn, Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, yn sgwrsio gyda Hanna Hopwood ac yn amlinellu ein dull rheoleiddio i'r dyfodol.
-------- Â
11:51
Blwyddyn gyntaf Comisiynydd y Gymraeg
Wrth i Efa Gruffudd Jones ddod at ddiwedd ei blwyddyn gyntaf fel Comisiynydd y Gymraeg, mae hi'n sgwrsio gyda Hanna Hopwood, yn edrych yn ôl ar ei chyfnod cyntaf yn y swydd ac nodi rhai uchafbwyntiau, a’i gobeithion i'r dyfodol.