Asesu Anghenion Llythrennedd Uwchradd trwy’r Gymraeg
Rhiannon Packer a Marjorie Thomas o Brifysgol Met Caerdydd sy’n sgwrsio gyda Trystan yn y rhifyn hon yn trafod y gwaith o gynhyrchu’r asesiad llythrennedd safonedig holistaidd cyntaf yng Nghymru. Fe fyddwn yn trafod asesu anghenion llythrennedd disgyblion uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg.
--------
29:20
--------
29:20
Mudiad Meithrin
Menna Machreth sy’n ymuno â Trystan i drafod sut mae Mudiad Meithrin wedi ac yn ymateb i anghenion plant yn y blynyddoedd cynnar yn sgil y ddeddf ADY. Mudiad sy'n arbenigo ym maes y blynyddoedd cynnar yw Mudiad Meithrin
--------
24:32
--------
24:32
Siwrne Siarad
Emma Griffiths, athrawes arbenigol Iaith a Lleferydd o Sir Gaerfyrddin sy’n trafod y cynllun Siwrne Siarad, cynllun dwyieithog sydd ar gael i ysgolion ar draws y wlad i’w ddefnyddio i gefnogi datblygiad iaith plant a phobl ifanc.
--------
21:24
--------
21:24
Seicoleg Addysg
Yn y rhifyn hwn, Lynwen (Caerfyrddin) a Helen (Castell Nedd Port Talbot) sy’n trafod eu gwaith fel Seicolegwyr Addysg.
--------
37:23
--------
37:23
Athrawon Arbenigol Nam Golwg
Owain (Cyngor Caerdydd) a Mair (Sir Benfro), dau o athrawon arbenigol Nam Golwg Cymru sy’n ymuno yn y rhifyn hwn. Ceir trafodaeth ar waith athrawon Nam Golwg Cymru gan gynnwys yr heriau a’r dechnoleg sydd ar gael i gefnogi dysgwyr a chanddynt nam ar eu golwg
Cyfres o bodlediadau newydd sy'n canolbwyntio ar Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Gymraeg. Trystan Williams, Arweinydd Gweithredu Cenedlaethol ADY a'r Gymraeg sy’n arwain y sgyrsiau. Yn ystod y podlediadau hyn, byddwch yn clywed am sut mae addysgwyr ac arbenigwyr o bob rhan o Gymru yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ag ADY drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym wedi teithio'r wlad a byddwn yn dod ag enghreifftiau i chi o'r cymorth sydd ar gael i ddysgwyr ledled Cymru.